Dafydd Elis-Thomas (Llun - Plaid Cymru)
Mae Dafydd Elis-Thomas wedi cadarnhau ei fod yn ystyried herio penderfyniad Plaid Cymru i’w sacio o swydd Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad.

Ac mae wedi parhau i feirniadu arweinydd y Blaid, Leanne Wood, am alw plaid UKIP yn “anghymreig” – dyna a arweiniodd at ei ddiswyddo o’r gadeiryddiaeth ac o fod yn llefarydd trafnidiaeth y blaid.

Fe ddywedodd cyn Lywydd y Blaid wrth Golwg360 y byddai’n ystyried dros y penwythnos a fydd yn herio’r cynnig i’w symud o gadeiryddiaeth y pwyllgor.

Ac, wrth i aelodau o bleidiau eraill ar y pwyllgor ei gefnogi,mae wedi galw hefyd am system fwy democrataidd o ethol cadeiryddion.

Diswyddo

Fe ddaeth penderfyniad Leanne Wood i’w ddiswyddo brynhawn ddoe ar ôl i’r ffrae tros UKIP gymryd llawer o’r sylw yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru.

Roedd Dafydd Elis-Thomas wedi galw sylwadau’r arweinydd am UKIP yn rhai “arwynebol” ond, yn ôl yr arweinyddiaeth, doedd o ddim wedi mynegi unrhyw amheuon am y strategaeth ymlaen llaw.

Roedd Leanne Wood wedi dadlau bod safbwyntiau gwrth-Ewropeaidd UKIP hefyd yn groes i fuddiannau Cymru.

Sylwadau Dafydd Elis-Thomas wrth Golwg360

Dyma ddywedodd Dafydd Elis-Thomas wrth Golwg360: “Nid dyna’r math siarad yr ydan ni’n trio’i hyrwyddo yn y lle yma o ran cydraddoldeb a lle mae pawb sy’n byw yng Nghymru yn cael eu trin yr un fath.

“Dydach chi ddim yn disgrifio plaid fel bod yn anghymreig. Dydi o ddim yn briodol disgrifio plaid fel yna.
“Os oes yna bobol sy’n ystyried pleidleisio dros UKIP am eu bod yn ofni’r Undeb Ewropeaidd a’r berthynas, yna allwn ni ddim ond ymateb drwy negeseuon positif, nid drwy fynegi negyddol sy’n diraddio deallusrwydd pleidleiswyr neu ymosod ar eu hunaniaeth.”

Cefndir

Mae arwyddion wedi bod o bellter rhwng Dafydd Elis-Thomas ac arweinyddiaeth newydd y Blaid ac mae rhai hyd yn oed wedi dyfalu y gallai ei gadael.

Mae ei swydd mainc flaen wedi ei rhoi i AC newydd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, ac Alun Ffred Jones wedi ei enwebu’n Gadeirydd newydd y pwyllgor.