Dafydd Elis-Thomas
Mae AC Plaid Cymru, Dafydd Elis-Thomas, wedi dweud y bydd yn gwrthwynebu ymgais i’w ddisodli o fod yn Gadeirydd Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad.

Fe fyddai hynny’n golygu mynd yn groes i fwriad ei blaid ei hun, sydd wedi penderfynu ei symud o’r swydd ac enwebu’r Aelod Cynulliad arall, Alun Ffred Jones, yn ei le.

Ond, os bydd cynnig i wneud hynny yn dod gerbron y Cynulliad heddiw, fe gadarnhaodd Dafydd Elis-Thomas y byddai’n dadlau yn erbyn hynny.

Anghydfod

Dyma’r cam diweddara’ mewn anghydfod rhwng AC Dwyfor Meirionnydd ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ar ôl iddo feirniadu ei haraith yng Nghynhadledd Wanwyn y Blaid wythnos a hanner yn ôl.

Roedd yn anhapus gydag ymosodiad ar blaid wrth-Ewropeaidd UKIP a gyda honiad datganiad i’r wasg am yr araith fod y blaid yn anghymreig.

Fe ddywedodd Dafydd Elis-Thomas wrth Dylan Iorwerth ar y rhaglen Dan yr Wyneb y byddai’n gwneud yr un peth eto dan amgylchiadau tebyg.

Ond fe gyfaddefodd hefyd fod yr amseru’n wael – mae eraill yn y Blaid yn ei gyhuddo o danseilio ei strategaeth hi yn union cyn etholiad Ewrop.

Newid y drefn

Ychydig ddyddiau wedi’r feirniadaeth, fe ddaeth cyhoeddiad gan Leanne Wood ei bod hi’n diswyddo Dafydd Elis-Thomas o’i rôl yn llefarydd y Blaid ar Drafnidiaeth ac o gadeiryddiaeth y pwyllgor.

Fe fydd AC Dwyfor Meirionnydd yn dadlau tros newid y drefn er mwyn sicrhau nad pleidiau sy’n enwebu cadeiryddion a’u bod wedyn yn cael eu dewis trwy bleidlais gudd.