Mae’r iaith Gymraeg wedi “cyrraedd croesffordd” yn Sir Gaerfyrddin , yn ôl Cefin Campbell, Cadeirydd Gweithgor y Cyfrifiad Cyngor Sir Gâr.

Mewn adroddiad wedi ei selio ar ganlyniadau “argyfyngus” Cyfrifiad 2011, mae’r Gweithgor yn galw am “newidiadau radical” i geisio rhwystro’r Iaith Gymraeg rhag diflannu yn Sir Gâr.

“Mae’r iaith Gymraeg wedi bod yn rhan annatod o fywyd cymunedau Sir Gâr ers canrifoedd ond y tristwch yw ei bod hi bellach yn diflannu’n araf fel tywod mân rhwng ein bysedd,” meddai Cefin Campbell.

“Mae angen i ni weithredu ar frys i atal y dirywiad a bod yn ddigon dewr i roi mesurau yn eu lle i sicrhau bod y gwaddol diwylliannol unigryw hwn yn cael ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.”

Argymhellion

Un o argymhellion yr adroddiad yw bod y Cyngor Sir yn cynnal asesiad o’r galw am addysg Gymraeg mewn ardaloedd lle ystyrir bod angen.

Mae hefyd yn galw ar y Cyngor Sir i gydweithio’n agos gyda’r Mudiad Meithrin a darparwyr preifat i sicrhau bod addysg cyn ysgol cyfrwng Cymraeg ar gael yn hwylus ym mhob rhan o Sir Gâr.

Dywed yr adroddiad fod gwerthu manteision economaidd a chymunedol dwyieithrwydd i rieni a disgyblion yn greiddiol i hyn.

Argymhelliad arall yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yng ngweinyddiaeth fewnol y Cyngor Sir yn ogystal â chynnwys yr iaith Gymraeg fel ystyriaeth faterol yn rhan o’r Bil Cynllunio a’r Bil Tai,

“Rydym yn cydnabod serch hynny, fod rhai o’r argymhellion yn rhai heriol iawn ond yn ein barn ni atebion radical sydd eu hangen wrth i’r Gymraeg wynebu sefyllfa o argyfwng” meddai Cefin Campbell.

‘Angen gweithredu’r argymhellion’

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu nifer o’r argymhellion ond yn pwysleisio mai lle’r Cyngor nawr yw sicrhau fod yr argymhellion yma’n cael eu derbyn a’u gweithredu er mwyn gwneud gwahaniaeth i bobl Sir Gaerfyrddin.

Meddai Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith: “O edrych ar yr argymhellion mae’n dod yn amlwg y byddai’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin.

“Mae’r adroddiad yn gosod y nod fod y Gymraeg yn dod yn iaith weinyddol y Cyngor Sir gydag amser. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni wedi galw amdano, ac yn gweld ei bwysigrwydd, gan mai’r Cyngor Sir yw’r prif gyflogwr yn y sir, a byddai hefyd yn rhoi arweiniad clir ac yn dangos esiampl i gyrff, sefydliadau a busnesau eraill nid yn unig yn Sir Gaerfyrddin ond ar draws Cymru.

“Er mai Sir Gaerfyrddin welodd y cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Cyfrifiad, mae cyfle drwy’r adroddiad yma i’r Cyngor ddangos eu bod yn cymryd y Gymraeg o ddifrif a’n gyfle iddynt ddangos y ffordd i weddill Cymru.

“O ystyried hyn rydyn ni’n disgwyl y byddwn yn gweld amserlen glir a phendant ar gyfer gweithredu’r argymhellion ac na fydd y Cyngor yn oedi.”