Saith mlynedd ar ôl cyflwyno’r gwaharddiad smygu, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau newydd i wella iechyd cyhoeddus yng Nghymru – drwy fynd i’r afael â yfed a smygu gormodol.

Mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhoeddi Papur Gwyn yn amlinellu nifer o gynigion, gan gynnwys cyflwyno isafswm pris alcohol o 50c fesul uned a chyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts.

Fe allai Cymru fod y cyntaf yn y DU i wahardd e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus dan do.

Nod y Llywodraeth yw lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig â gorddefnydd a chamddefnydd alcohol.

‘Camau cadarn’

“Cymryd camau cadarn ar y cyd i fynd i’r afael â phryderon ynghylch iechyd y cyhoedd yw un o’r cyfraniadau cryfaf y gall llywodraeth eu gwneud i wella lles a llesiant ei phoblogaeth,” meddai Mark Drakeford.

“Mae alcohol a thybaco yn cyfrannu at nifer o achosion o salwch sy’n peryglu bywyd  ac maen nhw’n achosi llawer o’r anghydraddoldebau hirhoedlog mewn iechyd.

“Mae tystiolaeth i ddangos bod pris alcohol yn bwysig. Nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith bod marwolaeth a salwch yn sgil alcohol wedi codi’n sylweddol wrth i alcohol ddod yn fwyfwy fforddiadwy.

“Hefyd, mae e-sigaréts yn cynnwys nicotin, sy’n hawdd mynd yn gaeth iddo, a dwi am leihau’r risg bod cenhedlaeth newydd yn mynd yn gaeth i’r cyffur hwn.”

‘Cymru ar flaen y gad’

Ychwanegodd Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Cymru, bod Cymru ar flaen y gad wrth wella iechyd cyhoeddus:

“Cymru oedd y wlad gyntaf ym Mhrydain i bleidleisio o blaid gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus, a ddaeth i rym ar 2 Ebrill 2007 – deddf sydd bellach yn cael ei hystyried yn un o’r mentrau mwyaf llwyddiannus o ran iechyd y cyhoedd.

“Ar achlysur saith mlwyddiant y gwaharddiad smygu, mae’n arwyddocaol bod Cymru eto ar flaen y gad gyda set newydd o gynigion radical i wella iechyd y cyhoedd.”

Bydd ymgynghoriad y Papur Gwyn yn dod i ben ddydd Mawrth, 24 Mehefin.