Mae’r gyfres dditectif boblogaidd Y Gwyll, a’r fersiwn Saesneg Hinterland, yn dychwelyd i’r sgrin yn ddiweddarach y flwyddyn hon.

Bydd y BBC yn ymuno ag S4C fel cyd-gynhyrchwyr ar yr ail gyfres fydd yn cael ei darlledu ddiwedd y flwyddyn.

Canolbwynt y gyfres yw DCI Tom Mathias, sy’n cael ei chwarae gan Richard Harrington, wrth iddo yntau a’i dîm o dditectifs – DI Mared Rhys (Mali Harries), DC Lloyd Elis (Alex Harries) a DC Siân Owens (Hannah Daniel) – geisio datrys llofruddiaethau yn yr ardal wledig o gwmpas tref Aberystwyth.

Bydd y gwaith ffilmio yn dechrau yng Ngheredigion yn ystod mis Medi gyda’r gyfres eto’n cael ei ffilmio yn Gymraeg ac yn Saesneg bob yn ail golygfa.

‘Dathlu talent’

“Mae’r prosiect yn dathlu talent o Gymru mewn sawl ffordd ac rydym ni wrth ein boddau ein bod yn dychwelyd gydag ail gyfres,” meddai Ed Thomas, Cynhyrchydd Gweithredol Y Gwyll.

“Rydym ni hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at ddarllediad y gyfres gyntaf ar BBC Four.”

Ychwanegodd Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd:

“O’r dechrau roeddem ni’n gwybod bod Y Gwyll / Hinterland yn mynd i fod yn brosiect arbennig ac mae’n bendant wedi cydio yn nychymyg gwylwyr yng Nghymru a thu hwnt.”

Roedd y gyfres gynta’ o’r Gwyll yn gyforiog o dalentau actio Cymru, gan gynnwys Llion Williams, Dyfed Thomas, Valmai Jones, Rhodri Miles, Hywel Emrys, Brychan Llŷr, Sara Lloyd-Gergory, Rhys ap Hywel, Mared Swain, Phyllip Hughes, Matthew Gravelle, Rhys Parry Jones, Rhodri Evan a Nia Roberts…

Pwy hoffech chi weld yn actio yn yr ail gyfres?