Scott a Liam Williams
Bu criw golwg360 ar grwydr heddiw yn Hwlffordd, Sir Benfro, er mwyn siarad â rhai o’r trigolion lleol ynglŷn â rhai o faterion a phynciau llosg eu hardal nhw.

Ac wrth ymlwybro yn ôl drwy Arberth fe ddaethon ni ar draws gwersyll rygbi gwyliau’r Pasg i blant yn Arberth – gydag ambell un o sêr y Scarlets yn ymuno yn yr hwyl.

Roedd y rhanbarth yn cynnal un o’u gwersylloedd yng Nghlwb Rygbi Arberth, gyda phlant o bob oed yno i fwynhau prynhawn o rygbi yng nghwmni Scott Williams a Liam Williams.

Ac roedd yn gyfle i’r cefnogwyr gwrdd â rhai o’r chwaraewyr yn eu cymunedau eu hunain, yn ogystal â siawns i’r Scarlets gyfrannu i’r gymuned leol.

Felly fe aeth golwg360 draw i gael gair bach sydyn gyda Scott Williams – a gweld a oedd unrhyw sêr y dyfodol wedi dal ei lygaid: