Mae haul crabsoeth yn beryglus
Mae’r nifer sy’n diodde o ganser y croen yng Nghymru wedi cynyddu bedair gwaith yn ystod y deugain mlynedd diwethaf yn ôl yr elusen Ymchwil i Ganser.

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod dros 13,000 o bobl yn diodde o’r canser yn 2011 yng ngwledydd Prydain o’i gymharu a thua 1,800 yn 1975.

Golyga hyn bod 17 o bob 100,000 yng ngwledydd Prydain yn diodde o’r salwch, ond yng Nghymru, mae’r ffigwr cyfatebol yn 18 allan o bob 100,000.

Roedd 729 o bobl yn diodde o’r math yma o ganser yng Nghymru yn 2011 o’i gymharu a 87 yn 1975 a bydd tua 120 o’r cleifion yn marw oherwydd y canser yma eleni.

Ymgyrch a chyngor

Mae Ymchwil i Ganser wedi cychwyn ymgyrch hysbysebu am beryglon torheulo.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen mai’r ffaith bod mwy o bobl yn gallu mynd ar eu gwyliau i wledydd poeth erbyn hyn, a phoblogrwydd lliw haul sy’n gyfrifol am y cynnydd.

Ond dywedodd pennaeth ystadegau Ymchwil i Ganser bod y siawns o wella o’r cyflwr hefyd wedi cynyddu.

“Y newyddion da ydi bod y siawns o wella o’r clefyd gyda’r uchaf am unrhyw ganser,” meddai Nick Ormiston-Smith.

“Fe fydd 8 allan o bob 10 rwan yn goroesi,” ychwanegodd.

Mae’r elusen yn cynghori pobl i dreulio mwy o amser yn y cysgod, osgoi cyfnodau o haul crasboeth, gwisgo crys T a defnyddio eli haul factor 15 neu uwch tra allan yn yr haul neu yn tor-heulo.