Logo S4C
Fe fydd ceudwll anferth yr un maint a char i’w weld yng nghanol tref Llanelli’r mis nesaf.

Ond ceudwll wedi ei beintio ar y lon gan artist 3D ar ran S4C fydd hwn, er mwyn hyrwyddo rhaglen newydd i blant.

Madron yw enw’r gyfres newydd, sy’n adrodd stori dau blentyn yn ceisio achub y byd rhag firws dirgel.

“Mae gan Madron nifer o gymeriadau arallfydol felly fe fydd pobol yn gallu edrych i lawr i’r gwacter a gweld sombis a chwn gwyllt yn ceisio dianc,” meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant & Addysg S4C.

Ychwanegodd Rheolwr Marchnata a Thwristiaeth Llanelli, Huw Parsons: “Mae celf o’r natur yma yn mynnu sylw ac yn gallu achosi dipyn o gynnwrf.”

Bydd y ceudwll yn cael ei beintio ar Stryd Stepney ac i’w weld ar benwythnos gŵyl y banc 24 Mai.