Nick Ramsay yn y Siambr ar 10 Mehefin
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhyddhau datganiad yn dweud nad oes tystiolaeth i gefnogi’r honiad bod Nick Ramsay AC wedi bod yn feddw yn siambr y Cynulliad yn gynharach y mis hwn.

Dywedodd y datganiad Llywydd y Cynulliad wedi ymchwilio i’r amgylchiadau yn drylwyr ac wedi dod i’r casgliad “nad oedd sail i alw’r Aelod i drefn yn ystod y cyfarfod llawn ar 10 Mehefin.”

Roedd cwyn am yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, Nick Ramsay, wedi cael ei chyfeirio at  Lywydd y Cynulliad wedi i aelod o’r cyhoedd ei gyhuddo o ymddangos yn feddw yn y siambr ar 10 Mehefin.

Fe gysylltodd aelod o’r cyhoedd o etholaeth yr AC Llafur Julie Morgan â’i swyddfa yn honni bod Nick Ramsay wedi bod yn siarad yn aneglur.

Tair blynedd yn ôl fe ymddiheurodd Nick Ramsay ar ôl cael ei wahardd o darfan yn ei etholaeth yn Sir Fynwy yn dilyn noson gwis.

Cafodd hefyd ei feirniadu yn 2012 am fod yn absennol fwy nag unwaith o bwyllgor menter a busnes yr oedd yn cadeirio.

Dywedodd y datganiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae Llywyddion y Cynulliad wedi edrych i mewn i’r amgylchiadau yn drylwyr ac wedi cyrraedd eu casgliadau.

“Maen nhw wedi cadarnhau nad oedd sail i alw’r Aelod i drefn yn ystod y cyfarfod llawn ar 10 Mehefin.

“Ni fyddant yn gwneud unrhyw ddatganiad pellach ynghylch y mater.”