Mae Heddlu De Cymru hefyd yn ymchwilio i ddigwyddiad mewn bar chwaraeon yn y brifddinas neithiwr.

Mae dyn wedi gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty, wedi i ddyn arall ymosod arno yn y Canton Sports Bar ar Heol Lecwydd tua 6.36yh neithiwr.

Fe gafodd gwt yn ei fraich, ond nid yw’r anaf yn ddifrifol.

Fe ddaw hyn wedi achos o drywanu ar City Road chwarter awr ynghynt.