Daeth cadarnhad gan Heddlu Dyfed Powys fod gyrrwr beic pedair olwyn wedi marw ar ôl cael ei anafu mewn ras yng Ngheredigion ddoe.

Cafodd yr heddlu a’r ambiwlans awyr eu galw i’r safle ym Mwlchllan ger Llanbedr Pont Steffan tua hanner dydd, ond nid oedd posib achub Daniel John Roch, 19 oed, o Arberth, Sir Benfro.

Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu o ganlyniad i’r ddamwain.

Mae’r heddlu yn ymchwilio i achos y farwolaeth, ac mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch Cyngor Sir Ceredigion wedi cael gwybod.

Cafodd cwest i’w farwolaeth ei agor a’i ohirio heddiw.