Bryn Parry Jones
Mae’r heddlu yn ail-ymchwilio i honiadau fod prif weithredwr Cyngor Sir Penfro wedi derbyn taliadau “anghyfreithlon” ar ôl iddyn nhw dderbyn gwybodaeth newydd.

Daw hyn wythnos yn unig ar ôl i’r cyngor ddweud na fyddan nhw’n cymryd unrhyw gamau pellach i geisio adfer yr arian a dalwyd i Bryn Parry Jones.

Ym mis Ionawr eleni fe ddechreuodd Heddlu Sir Gaerloyw ymchwiliad ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru ddweud bod Bryn Parry Jones a phrif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James, wedi derbyn taliadau o dros £50,000 yn anghyfreithlon.

Ym mis Mai fe ddaeth yr heddlu i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod troseddau wedi’u cyflawni, ond gofynnodd cynghorwyr i’r ddau dalu’r arian yn ôl.

‘Gwybodaeth newydd’

Mae Heddlu Dyfed Powys nawr wedi cadarnhau eu bod yn edrych eto ar yr achos gyda Heddlu Sir Gaerloyw.

“Wedi i ni gael gwybodaeth newydd ynglŷn â Chyngor Sir Penfro a’r adroddiad a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru eleni, mae Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Sir Gaerloyw wedi ystyried hyn yn llawn ac o ganlyniad, wedi penderfynu y dylai’r heddlu ymchwilio ymhellach i’r wybodaeth newydd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys.

“Oherwydd y berthynas weithio glos sydd rhwng Heddlu Dyfed-Powys a Chyngor Sir Penfro, dyw hi ddim yn addas i’r llu gynnal yr ymchwiliad, ac felly fe fydd y gwaith yn cael ei wneud gan Heddlu Sir Gaerloyw.

“Ni fydd yr ymchwiliad yn edrych eto ar y wybodaeth oedd eisoes ar gael. Fe fydd yn canolbwyntio ar unrhyw dystiolaeth newydd ddaw i law.

“Ni fyddai’n addas gwneud sylw pellach gan fod yr ymchwiliad ar droed.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro y byddan nhw’n cydweithio’n llawn â’r ymchwiliad diweddaraf.

“Rydym ni’n ymwybodol o’r datganiad cyhoeddus gan Heddlu Dyfed-Powys, ac fe allwn ni gadarnhau y byddwn yn cydweithredu’n llawn â holl ofynion Heddlu Sir Gaerloyw,” meddai’r datganiad.