Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am ddyn sy’n cael ei amau o geisio denu dau blentyn yn eu harddegau i mewn i’w fan yn Llanilltud Faerdre ddoe.

Roedd y bobol ifanc yn chwarae yn ardal Strys Colhugh a Rosedrew Farm pan geisiodd y dyn eu cael i adael y stryd a mynd am dro yn ei gerbyd.

Mae’r dyn wedi’i ddisgrifio fel un gwyn, oddeutu 60 oed, o gorffolaeth fain, gyda gwallt gwyn a barf wen, dwt.