Cafodd dau ddyn eu harestio ddoe yng Nghaerdydd ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i ddyn gael ei saethu ger Rugby.

Cafodd Jordon Banton, 23, ei ddarganfod wedi ei saethu mewn car tua 11.40 fore Gwener ar Newton Road ger Rugby. Bu farw yn y fan a’r lle.

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi heddiw y cafodd dau ddyn o Rugby eu harestio yng Nghaerdydd ddoe ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Adrian McGee, sy’n arwain yr ymchwiliad, bod chwech o bobol eraill wedi cael eu harestio’n barod.

Meddai’r Uwch-arolygydd Adrian McGee: “Gallaf gadarnhau bod dau ddyn wedi cael eu harestio yng Nghaerdydd ddydd Llun 28 Gorffennaf ar amheuaeth o lofruddiaeth fel rhan o’n hymchwiliad.

“Mae’r ddau ddyn yn 28 a 34 oed, o Rugby, ac maent yn parhau i fod yn y ddalfa ar hyn o bryd.”

Mae’r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth ac mae unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr ymchwiliad yn cael eu hannog i ffonio Heddlu Warwickshire ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.