Y Cynghorydd Myfanwy Alexander
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud bod dirprwy arweinydd y cyngor wedi cael ei “cheryddu’n ddifrifol” am ddefnyddio iaith hiliol mewn cyfarfod cabinet ddydd Mawrth.

Roedd y Shropshire Star wedi adrodd bod y Cynghorydd Myfanwy Alexander, sy’n byw yn Llanfair Caereinion, sydd hefyd yn aelod cabinet dros yr iaith Gymraeg, wedi gwneud hynny mewn cyfarfod oedd yn trafod mynediad i wasanaethau iechyd yn Lloegr.

Mae’n debyg ei bod wedi dweud: “Rydyn ni’n cael ein trin fel n*****s dros y ffin. Mae ein hiaith a’n diwylliant yn cael ei sathru ac mae’n fater sensitif iawn. Dim  ein bai ni yw hi os nad oes gennym ni ysbyty cyffredinol dosbarth i fynd iddo.”

‘Cyfeirio at ddisgrifiad Maya Angelou’

Dywedodd arweinydd Cyngor Powys, y Cynghorydd Barry Thomas, ei fod wedi ei “cheryddu’n ddifrifol” ac y bydd hi nawr yn mynd am hyfforddiant cydraddoldeb.

Mae’r cyngor hefyd wedi cyfeirio’r achos at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Ond ychwanegodd: “Mae’r Cynghorydd Alexander wedi ymddiheuro am ddefnyddio’r gair a dywedodd wrtha’i mai’r rheswm ei bod hi wedi defnyddio’r gair arbennig hwnnw oedd oherwydd ei bod yn cyfeirio at ddisgrifiad Maya Angelou o wasanaeth iechyd annheg yn ne’r Unol Daleithiau a doedd hi ddim yn bwriadu pechu yn erbyn neb.

“Dywedodd ei bod yn defnyddio’r iaith liwgar fel ffordd o ymladd rhagfarn a thriniaeth anghyfartal.”

Myfanwy Alexander yw chwaer cyn Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Helen Mary Jones.