Francois Etoundi
Mae codwr pwysau o Awstralia sy’n cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nglasgow wedi cael gorchymyn i dalu iawndal o £400 i athletwr o Gymru ar ôl iddo gyfaddef ei daro gyda’i ben.

Clywodd Llys Siryf yng Nglasgow bod Francois Etoundi wedi ymosod ar Gareth Evans, sydd hefyd yn godwr pwysau, ym mhentref yr athletwyr fore dydd Mercher.

Roedd yr ymosodiad yn dilyn geiriau croes rhwng y ddau yn gynharach am gariad Gareth Evans.

Dywedodd y Siryf, Andrew Cubie, fod  Etoundi, sy’n 29 mlwydd oed, wedi dod “a rheolau’r maes chwarae” i mewn i bentref yr athletwyr a bod ei ymddygiad yn “tanseilio’r cysyniad o gemau cyfeillgar”.

Dywedodd y cyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad fod Francois Etoundi, sy’n wreiddiol o Cameroon, yn “siomedig iawn, iawn.”