Fe gafodd dyn a thri o blant eu hachub o’r môr oddi ar arfordir Môn ddoe, wedi i’w dau gaiac droi drosodd.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ym Mhorth Swtan ar arfordir gogleddol yr ynys.

Fe gafodd bad achub Caergybi ei alw, ac fe fuodd cwch arall a oedd yn digwydd pasio ar y pryd yn helpu. Roedd y dyn a’r plant, ill pedwar, yn dal gafael yn dynn i graig.

Fe ddaeth hofrennydd Sea King o’r Fali hefyd i gynorthwyo.