Cafodd mwy na 600 o bobl eu cludo i’r ysbyty yng ngheir yr heddlu yng Nghymru dros y tair blynedd ddiwethaf am nad oedd ambiwlans ar gael, yn ôl Plaid Cymru.

Daeth yr ystadegau i’r fei yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru.

Yn ardal De Cymru, roedd nifer y bobl gafodd eu cludo i’r ysbyty yng ngheir yr heddlu wedi dyblu o 83 yn 2012-13 i 187 – mwy na thri bob wythnos – yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Cofnodwyd 51 achos yng Ngwent mewn 10 mis yn ystod 2013-14,  ac 19 yn ardal Gogledd Cymru.

Nid oedd Heddlu Dyfed Powys wedi gallu rhydau’r wybodaeth.

‘Ofnau’

Dywedodd Elin Jones, llefarydd iechyd Plaid Cymru:  “Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn parhau i wynebu her wirioneddol i wella, a rhaid cael y gwelliannau hyn. All hi ddim bod yn dderbyniol fod, er enghraifft, tri o bobl yr wythnos ar gyfartaledd yn ne Cymru yn cael eu cludo i’r ysbyty mewn car heddlu.

“Ofni yr wyf i y bydd rhywun un diwrnod yn marw mewn car heddlu ar eu ffordd i’r ysbyty am nad oes ambiwlans ar gael.

“Yr hyn sy’n peri dychryn yw, yn 2009, fod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi beio’r tywydd gwael a chyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd am broblemau yng Ngwent, gan ddweud eu bod yn gweithio i ddatrys y problemau hynny. Dyma ni bum mlynedd yn ddiweddarach, y broblem yno o hyd, a’r sefyllfa yn ne Cymru yn gwaethygu.”