Y pecynnau bwyd a diod sydd wedi cyrraedd Irac
Mae Prif Weinidog Prydain David Cameron wedi dychwelyd o’i wyliau bellach i gynnal cyfarfod Cobra brys ynglŷn â’r sefyllfa yn Irac.

Fe gadarnhaodd Llywodraeth Prydain heddiw bod rhagor o gyflenwadau wedi cael eu gollwng ar fynydd Sinjar, wrth i gymuned yr Yazidis gael eu bygwth gan IS.

Maen nhw hefyd yn cynllunio i roi rhywfaint o gymorth milwrol i’r gymuned Gwrdaidd wrth iddyn nhw geisio gwrthsefyll milwyr IS.

Ond mae rhai arbenigwyr milwrol ac Aelodau Seneddol wedi galw ar Cameron i ystyried mynd yn bellach fyth – ac ymyrryd yn filwrol yn y wlad.

Ymuno â’r Americaniaid?

Mae’r sefyllfa yn Irac wedi dirywio’n sylweddol dros y misoedd diwethaf, gyda’r milwyr Islamaidd yn sgubo trwy ogledd y wlad a bygwth llywodraeth y wlad yn ogystal â’r Cwrdiaid yn y gogledd.

Bwriad IS yw sefydlu caliphate yn y Dwyrain Canol fyddai’n cynnwys gwledydd fel Syria hefyd, fel rhyw fath o wladwriaeth Islamaidd enfawr.

Mae’r UDA eisoes wedi dechrau cyrchoedd awyr yn erbyn lluoedd arfog IS, a hefyd wedi anfon nifer cyfyngedig o filwyr i’r wlad er mwyn asesu’r sefyllfa.

Ymysg y rheiny sydd yn galw am ymyrraeth filwrol bellach gan Brydain er mwyn achub y bobl Yazidi rhag cael eu lladd gan IS mae’r Cadfridog Syr Mike Jackson, y Cyrnol Tim Collins a’r cyn-ysgrifennydd amddiffyn Liam Fox.

Ond mae AS Llafur Graham Fox ymysg y rheiny sydd yn gwrthwynebu, gan ddweud nad yw pobl fel petai nhw wedi dysgu’r gwersi o fynd i Irac yn 2003.

Beth yw’ch barn chi? A ddylai Prydain ymyrryd yn filwrol, er mwyn ceisio atal rhagor o bobl rhag cael eu lladd gan IS? A ddylen nhw barhau i ddarparu’r cymorth dyngarol presennol yn unig? Neu gadw draw yn gyfan gwbl?