Mae cynnydd wedi bod yn nifer y disgyblion TGAU yng Nghymru sydd wedi derbyn graddau A*- C.

Yn ôl y Llywodraeth, dyma’r canlyniadau gorau erioed ac maen nhw’n honni eu bod yn “uchafbwynt hanesyddol”.

Mae dau draean o’r rheiny a safodd wedi ennill y graddau hynny – 66.6 % eleni o’i gymharu â 65.7% yn 2013 – cynnydd o 0.9%.

Mae hyn yn golygu bod Cymru wedi cau’r bwlch gyda rhannau eraill o wledydd Prydain.

Graddau ucha’ – cynnydd bach

Mae cynnydd bychan o 0.2% hefyd wedi bod yn y nifer a dderbyniodd y graddau uchaf A*- A o 19.2% y llynedd  i 19.4% eleni.

Ond mae’r cyfartaledd trwy wledydd Prydain yn parhau i fod yn uwch ar gyfer y graddau hynny.

Rhai’n well, rhai’n waeth

Mae’r holl ganlyniadau Ffiseg, Cemeg a Bioleg wedi gwella.

Ond dirywio wnaeth y canlyniadau mathemateg, Ffrangeg, Sbaeneg ag Almaeneg wedi wneud.

Ac mae canlyniadau Saesneg hefyd yn parhau’n is na’r llynedd – a hynny’n dilyn cwynion gan fwy na 100 o ysgolion am ganlyniadau’r arholiad ym mis Ionawr wedi newidiadau sylfaenol.

‘Hanesyddol’

“Mae’r gyfradd basio gyffredinol sy’n raddau A*-C, sef 66.6%, yn golygu mai’r rhain yw’r canlyniadau gorau rydyn ni wedi’u cyflawni erioed yng Nghymru,” meddai’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis. “Mae’r canlyniadau hyn yn uchafbwynt hanesyddol.

“Mae data yn dangos bod perfformiad wedi gwella o ran graddau A*, A, B ac C ar draws pob pwnc yng Nghymru, ac mae hynny’n galonogol iawn.