Disgyblion yn derbyn canlyniadau (PA)
Cymysg yw’r ymateb cynta’ i ganlyniadau TGAU Cymru, gyda chroeso i’r cynnydd yn y graddau gorau a phryder am fethiant mewn rhai pynciau allweddol.

Roedd y prif sylw i’r ffaith fod y bwlch wedi cau rhywfaint rhwng canlyniadau Cymru a Lloegr – er fod cymharu’n mynd yn fwy a mwy anodd wrth i’r ddwy system wahaniaethu.

Mae undebau’r athrawon hefyd yn falch fod yr helbulon a gafwyd gydag arholiad Saesneg ym mis Ionawr wedi eu hosgoi yn arholiadau’r haf.

Maths ac ieithoedd – achos pryder

Mae’r prif bryderon ynglŷn â’r cwymp yn y canlyniadau mathemateg a ieithoedd modern.

“Mae diffyg cynnydd wedi parhau mewn sawl sgil allweddol a hynny’n fwya’ pryderus yn achos mathemateg,” meddai’r llefarydd Ceidwadol ar Addysg, Angela Burns.

“Mae bron 22,000 o fyfyrwyr, neu 50% o’r grŵp oedran, wedi methu â chael gradd C neu uwch.”

‘Angen dadansoddi’

Yn ôl undeb yr ATL, roedd pryder am fod cyn lleied o ddisgyblion hyd yn oed yn sefyll arholiadau ieithoedd modern ac roedd angen chwilio am esboniad.

“Er fod canlyniadau’n gyffredinol yn gwella, mae angen dadansoddiad tawel a gofalus i ddysgu holl wersi’r canlyniadau heddiw,” meddai Cyfarwyddwr yr undeb, Philip Dixon.

Un pwynt i’w ystyried, meddai, oedd y duedd i gael disgyblion i sefyll arholiadau ynghynt, ar ôl blwyddyn o gwrs TGAU, yn hytrach na dwy.

Croesawu’r cau bwlch rhwng Cymru a Lloegr a wnaeth undeb yr NUT tra bod yr NAHT yn pryderu am allu Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r holl drefn arholiadau heb anrhefn yr arholiad Saesneg ym mis Ionawr.