Trefdraeth (GNU 1.2)
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn 63 yn Nhrefdraeth yn Sir Benfro neithiwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig cyn saith y nos yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad ar gwch yn y dŵr.

Roedd tri dyn ar y cwch ac fe aethon nhw i gyd i drafferthion yn y dŵr cyn cael eu tynnu o’r dŵr.

Er gwaetha’ ymdrechion gwylwyr y glannau, fe fu farw’r dyn ac mae ei deulu a’r crwner wedi cael gwybod.

Fe dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r heddlu ar 101.