Malky Mackay
Mae ymgyrchwyr amlwg yn erbyn hiliaeth mewn pêl-droed wedi ymosod ar ddatganiad yn esgusodi sylwadau hilion gan gyn-reolwr Caerdydd, Malky Mackay.

Maen nhw wedi condemnio sylwadau Cymdeithas y Rheolwyr Pêl-droed yn dweud mai “cellwair cyfeillgar” oedd negeseuon hiliol gan Mackay at un arall o gynweithwyr Caerdydd, Iain Moody.

“Cywilyddus” oedd sylw’r cyn chwaraewr rhyngwladol, Stan Collymore, tra oedd chwaraewr croenddu amlwg arall, Jason Roberts, yn cael trafferth i gredu fod neb wedi cyfansoddi’r fath neges.

Yn ôl Collymore, roedd y neges yn arwydd fod hiliaeth yn rhan o’r sefydlaid pêl-droed.

Datganiad y Gymdeithas

Yn ôl y Gymdeithas, dim ond dwy neges dramgwyddus oedd yna o blith mwy na 10,000 oedd wedi eu chwilio gan gyfreithwyr clwb Caerdydd.

Roedden nhw’n cydnabod bod y ddau hwnnw yn “amharchus at ddiwylliannau eraill” ond yn dweud eu bod wedi eu sgrifennu ar adeg “o bwysau mawr” ac yn “gellwair cyfeillgar” rhwng dau ddyn mewn negeseuon preifat.

Roedd y datganiad yn gwadu honiadau papur newydd bod Malky Mackay hefyd wedi ysgrifennu negeseuon homoffobaidd a rhywiaethol – secsist.

Yn ôl y datganiad, roedd Mackay’n awyddus i ymddiheuro “os” oedd wedi tramgwyddo neb.

Y cefndir

Mae’r ymateb wedi bod yn chwyrn ar ôl i rai o negeseuon Mackay gael eu cyhoeddi mewn papur newydd ac mae Cymdeithas Pêl-droed Lloegr yn cynnal ymchwiliad.

Mae’r digwyddiadau’n rhan o anghydfod dyfnach rhwng clwb Caerdydd a’r cyn-reolwr, a hynny’n cynnwys beirniadaeth o’i weithredu yn y farchnad prynu a gwerthu chwaraewyr.

Roedd disgwyl y byddai Malky Mackay yn ymuno ag Iain Moody yn gweithio i Crystal Palace – dyw hynny ddim wedi digwydd o ganlyniad i’r honiadau ac mae Moody wedi ymddiswyddo.

Fe ddaeth y negeseuon i’r amlwg wrth i gyfreithwyr ymchwilio i honiadau fod Palace wedi cael gwybodaeth ymlaen llaw am dîm Caerdydd cyn gêm rhwng y ddau glwb y llynedd.