Mae ambiwlansys Cymru wedi methu eu targed o gyrraedd 65% o alwadau brys mewn wyth munud unwaith eto.

Serch hynny roedd canran uwch o ambiwlansys wedi cyrraedd eu targed ym mis Gorffennaf o’i gymharu â mis Mehefin.
Roedd y ffigyrau ar gyfer Gorffennaf yn 58.3%, i fyny o 53% ym mis Mehefin ond lawr o 60.7% yng Ngorffennaf 2013.
Yn Lloegr a’r Alban mae’r un targed yn 75%.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol bod “ffordd hir i fynd” nes y bydd y targed yn cael ei gyrraedd.
Dyw’r canlyniadau “ddim digon da” meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

Dim ond unwaith mewn dwy flynedd mae’r targed o 65% wedi ei gyrraedd gan y Gwasanaeth Ambiwlans.

Ond bu cynnydd o 7% yn nifer y galwadau brys rhwng Mehefin a Gorffennaf eleni gyda mwy na 38,000 o alwadau yn cael eu derbyn ym mis Gorffennaf.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw ei bod yn buddsoddi bron i £4 miliwn wrth uwchraddio 736 o gerbydau ambiwlans. Bydd 41 o gerbydau ymateb brys yn cael eu prynu fel rhan o’r buddsoddiad.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams: “Tra ein bod yn croesawu unrhyw welliant mewn gwasanaeth i bobol Cymru, mae gennym ni ffordd hir i fynd nes cyrraedd targed Llywodraeth Cymru.

“Mae uwchraddio ambiwlansys yn ddechrau, ond pan dw i’n cyfarfod parafeddygon maen nhw’n dweud wrtha i mai’r her fwyaf iddyn nhw yw, nid y cerbydau, ond y lefelau staff. Maen nhw’n gweithio’n hynod o galed mewn amgylchiadau anodd ond maen nhw’n cael eu dal yn ôl gan Lywodraeth Lafur Cymru.”

Yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Darren Miller, “mae’n rhaid i gleifion a’u teuluoedd gael hyder mewn argyfwng eu bod yn gallu ffonio 999 a’u bod am dderbyn ymateb buan, ond o dan Lafur, nid dyma yw’r achos”.