David Phillips
Mae arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, David Phillips, wedi ymddiswyddo.

Wrth gyhoeddi’r newyddion neithiwr, dywedodd ei fod yn awyddus i ganolbwyntio ar godi proffil Abertawe’n rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Ond fe fu Phillips, a fu’n arweinydd y Cyngor ers 2012 ac yn gynghorydd ers degawd, o dan bwysau wedi iddo ddiswyddo dau aelod blaenllaw o’i gabinet – Rob Stewart, oedd yn gyfrifol am gyllid, a Will Evans, oedd yn gyfrifol am addysg.

Gwnaeth Phillips y penderfyniad wedi iddi ddod i’r amlwg ei fod yn wynebu cryn wrthwynebiad o fewn y grŵp Llafur yn y Cyngor.

‘Anhapus’

Yn ôl adroddiadau yn y wasg leol, mae aelodau o fewn ei blaid ei hun wedi bod yn anhapus ynghylch arweinyddiaeth Phillips.

Mae lle i gredu nad ydyn nhw’n hapus â’r ffordd yr aeth ati i ymdrin â’r broses o ddarganfod ail safle i’r gymuned deithiol yn Abertawe, na chwaith gyda’r broses gynllunio ar gyfer canolfan siopa Parc Tawe yng nghanol y ddinas.

Er gwaetha’i ymddiswyddiad o fod yn arweinydd, mae disgwyl i Phillips barhau’n gynghorydd.

‘Arweinydd gwych’

Dywedodd Nick Bradley, cynghorydd Llafur yn Abertawe, wrth golwg360: “Mae David Phillips wedi bod yn arweinydd gwych ac fe fydd colled ar ei ôl e.

“Mae’n gyfnod trist gan fod David wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’r rhanbarth ehangach.”

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl i’r arweinydd newydd fod yn ei swydd erbyn cyfarfod llawn nesa’r Cyngor ar Fedi 9.