Banc bwyd
Cyrhaeddodd Banc Bwyd Caernarfon garreg filltir nodedig yr wythnos hon, gan fwydo’r 2,500 person ers agor ei ddrysau llai na dwy flynedd yn ôl.

Mae cyfanswm o 1,543 o oedolion a 958 o blant wedi cael eu bwydo gan y Banc Bwyd, gan ddarparu dros 7,500 o brydau bwyd.

Ond mae rheolwr y banc bwyd wedi mynegi pryder fod y galw’n parhau i gynyddu ac nad yw’r adferiad economaidd wedi cyrraedd ardal Caernarfon.

Ymhlith y rhai sydd wedi cael cymorth gan y banc bwyd mae dynes a oedd yn mynd heb fwyd er mwyn cynilo ei phres ar gyfer talu am docyn trên i weld ei babi sâl yn Ysbyty Alder Hey; cyn-filwr o ryfel Afghanistan a oedd wedi anafu ei gefn, ac yn methu gweithio; a phâr oedrannus a oedd wedi derbyn bil trydan aruthrol o uchel ac a oedd yn gorfod dewis rhwng ei dalu, neu fwyta.

Banc Bwyd Cymraeg

Dywedodd rheolwr y Banc Bwyd, Paul Dicken, ei fod yn credu mai banc bwyd Caernarfon oedd yr unig un yn y byd oedd yn gweithredu drwy’r iaith Gymraeg, a hynny er bod 33 o fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru.

“Dim ond yn Saesneg mae Ymddiriedolaeth Trussell yn gwneud eu tocynnau bwyd, ond rydym ni wedi gwneud rhai Cymraeg yma yng Nghaernarfon hefyd,” esboniodd Dicken.

“Mae’n staff ni i gyd yn siarad Cymraeg, ac fe fuaswn i’n dweud bod tua 90-95% o’r bobl sy’n dod atom yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.

“Hyd y gwn i, ni yw’r unig fanc bwyd yng Nghymru sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.”

‘Teimladau cymysg’

Mae Banc Bwyd Caernarfon yn gynllun dan Eglwys Bentecostalaidd Caernarfon, yn aelod o rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell o fanciau bwyd, ac mae’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr o sawl eglwys leol ac aelodau eraill o gymuned Caernarfon.

Wrth drafod yr ystadegau diweddaraf, dywedodd Paul Dicken fod ganddo “deimladau cymysg.”

Meddai: “Ar y naill law, rydym yn hynod o falch ein bod wedi gallu helpu teuluoedd a fyddai, fel arall, wedi mynd heb fwyd, ac mae haelioni pobl ardal Caernarfon a Bangor, sydd yn cyfrannu bwyd a phres fel unigolion neu drwy ysgolion, eglwysi a busnesau, yn ein rhyfeddu o hyd. Ac wrth gwrs, mae cyfraniad ein partneriaid, fel siopau Tesco, yn amhrisiadwy.

“Ond ar y llaw arall, nid yw’r adferiad economaidd yn cyrraedd yr ardal hon, ac mae’r galw’n parhau i gynyddu.

“Rydym hefyd yn gwybod am deuluoedd sy’n methu bwydo eu plant yn ystod gwyliau’r ysgol, pobl oedrannus sy’n mynd heb fwyd am fod rhaid iddynt dalu biliau a phobl sydd ond yn gweithio rhan-amser sy’n cael eu taflu i argyfwng ariannol pan fydd bil annisgwyl o fawr yn dod drwy’r drws.

“Nid ydym yn eu gweld nhw yn y Banc Bwyd, ond rydym yma iddynt hwythau hefyd. Mae pawb yn wynebu cyfnod caled o bryd i’w gilydd, ac rydym yn gallu bod yn bont i gario pobl drwy’r cyfnodau anodd hynny.”

Roedd bron i hanner (44%) o gleientiaid y Banc Bwyd yn derbyn parsel bwyd oherwydd newid ac oedi gyda budd-daliadau – yn benodol y Dreth Ystafel Wely a chosbau budd-daliadau – 18% oherwydd incwm isel, ac 11% oherwydd dyled.

Mae’r chwarter sy’n weddill yn derbyn parseli bwyd am eu bod yn ddigartref, yn dioddef trais domestig, salwch hir dymor neu am resymau eraill.

Ychwanegodd Paul Dicken fod croeso bob amser i wirfoddolwyr ymuno â nhw i “ysgwyddo amrywiol dasgau” yn y Banc Bwyd ac mae croeso i unrhyw un gysylltu â Gwyn ar 07847 192896 i gael mwy o wybodaeth.