Tommo a Chadair Ceri Wyn
Mae’r cyflwynydd radio Tommo wedi dweud y byddai’n hoffi cychwyn tîm tafarndai Aberteifi er mwyn cystadlu yn Nhalwrn y Beirdd ar Radio Cymru.

Dywedodd y cyflwynydd hynny – wrth gellwair o bosib – mewn noson neithiwr i gyfarch Meuryn y Talwrn ac un o drigolion Aberteifi, Ceri Wyn Jones, ar ennill Cadair Eisteddfod Sir Gâr 2014.

Roedd cyfarchiad barddol Andrew ‘Tommo’ Thomas yn un o nifer o gyfarchiadau i’r Prifardd yng nghlwb rygbi Aberteifi. Derbyniodd Ceri Wyn Jones dlws gan drigolion Aberteifi, sef darn o garreg o Gastell Aberteifi wedi ei osod ar ddarn o bren o’r un safle.

Cyfeiriodd Ceri Wyn Jones droeon at y castell yn ei awdl fuddugol ar thema Lloches, a oedd “wedi’i lleoli’n ddiamwys yn nhref Aberteifi heddiw” meddai un o feirniaid y gystadleuaeth, Llion Jones, wrth draddodi ei feirniadaeth yn Llanelli.

Côr Ar Ôl Tri a ddiweddodd y noson, a chyflwynodd Maer Aberteifi darian i’r côr i nodi eu llwyddiannau yn yr Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd.