Mae Undeb Rygbi Cymru wedi mabwysiadu Polisi Iaith Gymraeg swyddogol a fydd, yn ôl yr undeb, yn helpu i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio “ym maes rygbi – ar y cae ac oddi arno”.

Ychwanegodd yr undeb mewn datganiad y bydd y polisi’n sicrhau bod yr iaith yn cael ei hystyried ar draws pob agwedd ar fusnes a rygbi.

I gyd-fynd â’r cyhoeddiad, mae Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi cyhoeddi gwefan ddwyieithog newydd.

Y polisi

Daeth y polisi yn dilyn ymgynghoriad â Chomisiynydd y Gymraeg ac mae’n ymdrin â meysydd fel y wefan, cyhoeddiadau, cyfryngau cymdeithasol, protocolau ar gyfer ateb y ffôn a siarad yn gyhoeddus.
Mae’r polisi’n cynnwys protocolau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o gylch gwaith y corff llywodraethu, sy’n cynnwys Stadiwm y Mileniwm.

Meddai Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: “Rydw i wrth fy modd bod Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi polisi swyddogol sy’n adlewyrchu ein dyletswydd gofal tuag at y defnydd a wneir o’r Gymraeg.

“Rydym yn cynrychioli camp genedlaethol Cymru, ac mae’n iawn ac yn deg ein bod yn hyrwyddo ac yn hwyluso’r defnydd a wneir o’r Gymraeg yn Undeb Rygbi Cymru a thrwy’r bobl rydym yn ymwneud â nhw.

Meddai Cadeirydd URC, David Pickering: “Mae’r Gymraeg yn iaith fyw ac mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gydnabod pwysigrwydd yr iaith drwy fabwysiadu’r polisi newydd hwn.

“Rwy’n gobeithio y bydd y cam hwn yn dangos y ffordd i sefydliadau eraill sydd am ddilyn ein hesiampl a chyhoeddi eu cefnogaeth i’r Gymraeg yn y modd hwn.

“Rydym hefyd yn hynod o ddiolchgar i S4C am yr help yr ydym yn ei gael gan y sianel wrth i ni geisio gwireddu ein dyheadau o safbwynt cynnwys y wefan.”

Mae URC ac S4C wedi ffurfio partneriaeth sy’n golygu bod yr Undeb yn caniatáu i’r darlledwr gael deunydd fideo Cymraeg sydd yna’n gallu cael ei ddefnyddio gan y ddau sefydliad.

Mae hynny’n galluogi Undeb Rygbi Cymru i sicrhau llif o ddeunydd Cymraeg ar y we.

Mor ddiweddar â mis Gorffennaf, roedd unigolion a sefydliadau, gan gynnwys Dyfodol i’r Iaith, wedi bod yn galw ar Undeb Rygbi Cymru i wneud mwy o ddefnydd o’r iaith Gymraeg.

Mae polisi i’w weld yma: