DNA
Heno, mi fydd S4C yn lansio prosiect newydd sbon sy’n anelu i olrhain a darganfod mwy am hanes y Cymry trwy astudio samplau o’u DNA.

Mae’r sianel yn gofyn i gyfranwyr, sef bobol sy’n byw yng Nghymru neu sy’n ystyried eu hunain i fod yn Gymry, i dalu hyd at £200 am Becyn Poer er mwyn medru astudio sampl o’u DNA.

Y gobaith yw y bydd rhai miloedd o bobol yn cyfrannu at ymchwil CymruDNAWales.

Dilyn prosiect tebyg

Mae’n dilyn prosiect tebyg yn yr Alban ac mae disgwyl y bydd yn cymryd rhwng dwy a thair blynedd i’w gwblhau.

Ar Radio Wales y bore yma, roedd Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, Garffild Lloyd Lewis, wedi egulro bod y pecynnau’n rhai gwyddonol iawn. Ychwanegodd:

“Mae pobol yn prynu’r pecynnau poer yn barod. Mae’r gost yn talu am y pecyn poer, y profion DNA sydd yn dilyn hynny, ac am y pecyn gwybodaeth bersonol sy’n mynd i bob unigolyn i gyfleu’r canfyddiadau.

“Fel rhan o gytundeb S4C gyda’r prosiect, fe fyddwn ni’n derbyn nifer o becynnau poer fydd yn cael eu rhoi allan am ddim i’r cyhoedd drwy gystadlaethau ar ein gwasanaethau, a byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid eraill i gynnig cyfleoedd pellach i bobl o wahanol gefndiroedd gymryd rhan.”

Astudio

Mae wedi dweud hefyd ei fod ef ei hun wedi cymryd y prawf a hwnnw wedi dangos bod ei gyndeidiau pell wedi dod i Gymru o Ewrop.

“Mi fydd yr astudiaeth yn gallu edrych ar bob math o bethau – pryd ddaeth y llygaid glas cynta’ i Gymru, er enghraifft?,” meddai mewn datganiad. “Pryd ddaeth gwallt coch yn rhywbeth cyffredin yng Nghymru?

“Mi fyddwn ni hefyd yn edrych ar ardaloedd daearyddol – er enghraifft, pwy ydy pobol Môn – be’ ydy’r mics? Sut daethon nhw yno?

“Hon yn sicr fydd yr astudiaeth DNA mwya’ eang yng Nghymru, y tro cynta’ i rywbeth tebyg gael ei wneud ar y lefel yma, sy’n canolbwyntio yn benodol ar ffiniau Cymru.”