Cyngor Sir Ceredigion
Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw wedi dod i’r casgliad fod gan Gyngor Sir Ceredigion arweinyddiaeth gref a chlir.

Dywedodd yr adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru hefyd fod gan y cyngor, yn dilyn ailstrwythuro, “ddiwylliant yn seiliedig ar berfformiad corfforaethol sydd â photensial da” i wella gwasanaethau i ddinasyddion y sir.

Meddai’r adroddiad bod y cyngor yn rheoli ei adnoddau a’i asedau’n dda ac mae’n cydweithio â chynghorau a darparwyr gwasanaeth eraill i ddarparu gwasanaethau gwell.

Ond, mae lle i wella gan fod trefniadau rheoli perfformiad y cyngor yn parhau i gael eu datblygu, ac mae angen gwneud mwy i “ysgogi newid gwirioneddol mewn canlyniadau gwasanaethau”.

‘Penderfyniadau anodd’

Ychwanegodd yr adroddiad bod y ffordd mae’r cyngor yn rheoli arian wedi bod yn dda yn y tymor byr ond bod angen iddyn nhw wneud “penderfyniadau anodd” os yw am lwyddo i gydbwyso ei gyllideb yn y tymor canolig.

Mae angen iddyn nhw hefyd wella’r ffordd maen nhw’n cyfathrebu gyda dinasyddion.

Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion dinasyddion ac mae ei ffocws ar wella gwasanaethau a chanlyniadau i’w ddinasyddion yn amlwg.

“Fodd bynnag, bydd angen i’r Cyngor wneud penderfyniadau anodd os yw am barhau i ddarparu gwell gwasanaethau i’w ddinasyddion yn ogystal â sicrhau’r gostyngiadau sylweddol sydd eu hangen o ran costau.”

Bob blwyddyn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 gyflwyno adroddiad yn nodi pa mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub, a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella wrth ddarparu eu gwasanaethau.