Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i farwolaeth babi llai na thair wythnos oed.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Dreffynnon yn Sir y Fflint yn oriau man y bore ma, lle daethpwyd o hyd i’r babi bach oedd mewn trafferthion.

Ar hyn o bryd, mae’r farwolaeth yn cael ei drin fel un sydd heb ei hesbonio.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Simon Williams: “Cawsom ein galw gan y Gwasanaeth Ambiwlans am fod babi mewn trafferthion yn Nhreffynnon am 1.16yb heddiw.

“Cafodd y bachgen bach bron yn dair wythnos oed ei drosglwyddo i Ysbyty Glan Clwyd ble y cyhoeddwyd ei fod wedi marw.

“Ar hyn o bryd rydym yn trin ei farwolaeth fel un sydd heb ei hesbonio. Mae’r crwner wedi cael gwybod.”