Kirsty Williams
Fe fydd Kirsty Williams yn herio pleidiau gwleidyddol Prydain i gefnogi argymhellion Comisiwn Silk yn llawn yn yr etholiad nesaf, gan ddweud mai dyna’r unig ffordd i sicrhau “Senedd go iawn” i Gymru.

Mae disgwyl hefyd i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ymosod ar genedlaetholwyr am geisio “chwalu undeb 300 mlwydd oed”, yn ei haraith i gynhadledd ei phlaid yn Glasgow heddiw.

Wrth i’r trafod barhau ynglŷn â chyfeiriad datganoli ym Mhrydain yn dilyn refferendwm yr Alban, fe fydd Kirsty Williams yn galw ar bob un o bleidiau San Steffan i ymrwymo i weithredu argymhellion Silk i gyd.

Byddai hynny’n cynnwys datganoli pwerau ariannol dros dreth incwm a threth stamp, yn ogystal â rhai pwerau dros ynni, dŵr, darlledu a’r heddlu i Gymru, gan gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad i o leiaf 80 yn y broses.

‘Senedd go iawn’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn hanesyddol wedi bod yn ffafriol tuag at ddatganoli sylweddol i Gymru.

A heddiw mae disgwyl i Kirsty Williams ddweud fod angen “Senedd go iawn” ar Gymru o’r diwedd.

“Ynni, cyfiawnder, pwerau i amrywio trethi, mae’r rhestr yn mynd yn ei flaen – fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn sicrhau’r rhain i gyd,” mae disgwyl iddi ddweud.

“Nawr mae’n amser i’r pleidiau eraill gamu lan. Rwy’n eu herio nhw i wneud beth mae Nick Clegg wedi’i wneud a chytuno i argymhellion Comisiwn Silk, fel bod Cymru’n medru siarad ag un llais.

“Mae’n rhaid i Gymru gael Senedd go iawn, un sydd yn adlewyrchu dyheadau’r bobl, un sydd â’r pŵer i wneud gwahaniaeth, un sydd yn dangos fod datganoli wir yn gallu gweithio.”

SNP, Plaid a UKIP

Yn ôl Kirsty Williams, mae’r flwyddyn hon hefyd wedi gweld Prydain o dan fygythiad o gael ei gwahanu, o Ewrop yn ogystal ag yn fewnol.

Fe fydd yn rhaid dysgu’r gwersi o hynny, meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae’n rhaid i refferendwm [yr Alban] fod yn wers fod pobl Prydain eisiau cael mwy o ddweud dros eu dyfodol,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni ddangos fod newid ar ei ffordd – all annibyniaeth ddim bod yr unig opsiwn.

“Yr SNP, Plaid Cymru a UKIP – allwn ni ddim gadael iddyn nhw’n rhannu ni.

“Mae datganoli pŵer yn ein gwaed ni, dyna beth rydyn ni’n ei wneud. Mae’n rhaid i’r Democratiaid Rhyddfrydol ail-gipio’r agenda datganoli.

“Ar ôl ffraeo’r refferendwm, mae’n rhaid i obaith godi eto. Ni yw gorffennol radical Prydain, ac mae’n rhaid i ni fod yn ei ddyfodol radical hefyd.”