Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i gadw tri o bobl yn y ddalfa er mwyn  eu holi ynglŷn â llofruddiaeth dyn yn Wrecsam.

Bu farw’r dyn 25 oed ym Mharc Caia, Wrecsam yn oriau mân fore dydd Sadwrn.

Cafodd y tri pherson eu harestio ddoe.

Dywed yr heddlu bod teulu’r dyn yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion a oedd yn ardal Ffordd Deva nos Wener neu yn ystod oriau man bore dydd Sadwrn i’w ffonio ar 101.