Arwyn Lloyd Thomas yw Pennaeth Addysg newydd Cyngor Gwynedd ac fe fydd e’n cymryd yr awenau yn y flwyddyn newydd.

Yn enedigol o’r Bala, mae’n gadael ei swydd fel Prif Swyddog Addysg Cyngor Dinas a Sir Abertawe.

Fe fu gynt yn Bennaeth Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Ceredigion ac yn gyn-Arolygwr Estyn.

Mae arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards wedi llongyfarch y Pennaeth Addysg newydd, gan ddweud mai “addysg plant yw un o’n blaenoriaethau craidd ni fel Cyngor ac rydw i’n hynod falch ein bod wedi llwyddo i ddenu unigolyn disglair iawn i’r swydd bwysig yma”.

Dywedodd yr aelod Cabinet dros Addysg, Gareth Thomas ei fod yn “croesawu’r penodiad ac yn edrych ymlaen at gydweithio hefo Arwyn a’r tîm er mwyn sicrhau’r addysg gorau posibl i blant a phobl ifanc Gwynedd.”

Ychwanegodd cadeirydd y Pwyllgor Penodi a’r aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau, Peredur Jenkins fod “Arwyn yn dod â chyfoeth o brofiad gydag o i’r swydd” a’i fod yn “gaffaeliad i ymdrechion y Cyngor i godi safonau ymhellach ac i ddarparu’r cyfle gorau posibl o lwyddiant i ddisgyblion y sir.”