Craig Bellamy - mae ganddo academi i chwaraewyr ifanc yn Sierra Leone
Mae cyn seren Cymru a Chaerdydd, Craig Bellamy, wedi bod yn siarad am ei ofid am iechyd a diogelwch y pêl-droedwyr ifanc yn ei academi bêl-droed yn Sierra Leone.

Mewn cyfweliad ar raglen chwaraeon S4C, Clwb, brynhawn heddiw, mae’n datgelu ei wewyr o weld y feirws marwol Ebola yn lledaenu i’r ardal ar arfordir gorllewinol Sierra Leone lle mae ei academi bêl-droed.

Mae’r feirws wedi cyrraedd dinas Waterloo – dim ond ychydig filltiroedd o dref bysgota Tombo lle mae’r academi.

Mae gweinyddwyr ysgol bêl-droed Craig Bellamy yn Affrica, sy’n cael ei hariannu gan The Craig Bellamy Foundation, yn dweud eu bod wedi cymryd pob cam posibl i sicrhau nad yw’r feirws Ebola marwol yn cyrraedd y sêr pêl-droed ifanc yn ei academi.

“Beth ddylem ni wneud?”

“Mae’r argyfwng Ebola wedi bod yn anodd iawn i bawb yn Sierra Leone a hefyd yn Liberia a Guinea, a rhai ardaloedd eraill o orllewin Affrica,” meddai Craig Bellamy yn emosiynol.

“Beth ddylem ni  wneud ..? Dw i ddim yn gwybod a bod yn berffaith onest, ond y ffaith syml yw hyn, petawn yn gadael i’r bechgyn yn yr academi fynd adre’ at eu teuluoedd a’u pentrefi, maen nhw’n fwy tebygol o ddal y clefyd.

“Felly, beth ydym yn ei wneud, eu cadw ddydd ar ôl dydd yn yr academi fel petawn nhw  mewn carchar?”

Bydd y cyfweliad yn cael ei ddangos mewn tair rhan heddiw – am 12:55yp, 3:40yp a 6:10yh – ac yna’n eu dangos mewn fersiwn lawn a helaeth ar wefan S4C o 6.30yh heno.