Mae gweithwyr Trenau Arriva Cymru wedi cyhoeddi bod streic ynglŷn â diswyddiad dau aelod o Undeb y Gweithwyr Rheilffyrdd (RMT) wedi ei gohirio.

Roedd disgwyl i’r aelodau gynnal streic 48 awr yfory, am eu bod yn anhapus gyda phenderfyniad i ddiswyddo dau weithiwr am eu bod wedi methu a dod i’r gwaith oherwydd salwch.

Byddai wedi dilyn streic 24 yn gynharach y mis hwn wnaeth effeithio ar wasanaethau yng ngogledd Cymru.

Yn ôl undeb yr RMT, mae rheolwyr Arriva wedi cytuno i gynnal trafodaethau gyda nhw.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Mick Cash: “Buaswn yn hoffi diolch i’r gweithwyr am sefyll yn gadarn yn erbyn Trenau Arriva Cymru. Mae’n deyrnged i’r gweithlu effeithlon a chryf yma sydd ddim yn fodlon i’r rheolwyr gerdded drostyn nhw.”