Mark Jenkins
Mae adeiladwr wnaeth dwyllo dwsinau o bobol yn ne Cymru a de orllewin Lloegr o bron i £1 miliwn wedi cael ei garcharu am bum mlynedd.

Clywodd Llys y Goron Bryste fod Mark Jenkins, 45, o Gaerffili wedi bod yn targedu perchnogion tai yn ne Cymru, Bryste a Gwlad yr Haf am dros ddwy flynedd.

Mewn rhai achosion, roedd y cyn-gamblwr wedi mynnu blaendal gan gwsmeriaid ac wedi methu a chwblhau’r gwaith adeiladu mewn sawl achos.

Roedd wedi twyllo cyfanswm o 42 o gwsmeriaid yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Clevedon, Weston-super-Mare a Bryste.

Credir iddo ddefnyddio sawl enw gwahanol i dwyllo pobol o tua £830,000. Roedd yn gweithio ar ei ben ei hun.

“Mae’r ffaith iddo newid ei enw yn adlewyrchu’r twyll,” meddai’r barnwr Graham Hume Jones.