Mae ymchwiliad wedi dechrau i farwolaeth dyn 26 oed fu farw mewn damwain ffordd ger Y Felinheli.

Roedd Gilbert David Broome o Salford, Manceinion yn teithio mewn car Ford KA pan fu iddo wrthdaro gyda char arall ar ffordd Nant y Garth tua 6:30 nos Fercher.

Cafodd gyrrwr y Ford Ka ei gludo i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol.

Cadarnhaodd swyddfa Crwner Gogledd Orllewin Cymru, Mr David Pritchard Jones, fod ymchwiliad wedi dechrau i farwolaeth Gilbert David Broome .

Mae’r heddlu yn gofyn  i unrhyw un welodd y ddamwain i gysylltu â nhw ar 101.