Y Cynghorydd Michael Sol Williams gyda'r arwydd newydd
Mae datblygwyr tai wedi tynnu arwyddion uniaith Saesneg oddi ar safle ger hen filfeddygfa ym Mhwllheli yn dilyn cwynion.

Gosodwyd  yr arwyddion ar y safle lle mae McCarthy and Stone yn adeiladu fflatiau ymddeol.

Cafodd ymgyrch ei sefydlu gan Gangen Plaid Cymru Pwllheli a chafodd yr arwyddion eu newid, a’r Gymraeg yn cael lle mwy blaenllaw na’r Saesneg ar yr arwyddion newydd.

Dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru, Michael Sol Owen, un o’r ymgyrchwyr blaenllaw:

“Buan iawn y daethon nhw at eu coed.

“Digon o waith eu bod wedi sylweddoli pa mor bwysig yw siarad â phobol yn eu hiaith eu hunain.

“Erbyn hyn, maen nhw’n gallu cysylltu â phob rhan o’r gymuned.”

Ychwanegodd Wil Roberts, un o’r ymgyrchwyr trwy wefannau cymdeithasol fod “hyn yn dangos i’r cwmnïau mwyaf mai trech gwlad nac arglwydd.

“Mae’n rhaid i ni drechu pan fydd y pethau yma’n digwydd.”