Un o fysus Padarn gynt (Eric Jones CCA2.0)
Mae tri aelod o staff Bysus Padarn yn Llanberis wedi cael eu cyhuddo o dwyll ariannol yn dilyn ymchwiliad i’r cwmni sydd wedi mynd i’r wal.

Mae’r BBC’n adrodd bod dau ddyn 44 a 54 oed a dynes 28 o Wynedd wedi cael eu cyhuddo o dwyll trwy gadw cyfrifon ffug.

Cawson nhw ac un aelod arall o staff eu rhyddhau ar fechnïaeth yn dilyn eu harestio.

Byddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon ym mis Rhagfyr.

Collodd 84 o weithwyr eu swyddi pan aeth y cwmni i’r wal ar Fai 30, gyda thri chwmni arall yn ymgymryd â’u gwaith – Arriva Cymru, O R Jones Llanfaethlu a chwmni Gwynfor o Sir Fôn.