Mae dau ddyn ifanc wedi marw mewn damwain car ger Wrecsam neithiwr am tua 10.55.

Bu i Vauxhall Corsa yn cludo’r dynion 19 a 22 o Sir Amwythig daro coeden ar yr A495 yn Bronington, Wrecsam.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd bod dau o bobol wedi marw tu fewn i’r car er gwaetha’ ymdrechion y cyhoedd a’r gwasanaethau brys.