Mae o leiaf 2,096 o bobl yng Nghymru wedi bod ar restr aros tai ers dros ddeng mlynedd, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru heddiw.

Mae’r ffigurau, a gafodd eu rhyddhau trwy gais Rhyddid Gwybodaeth, hefyd yn dangos bod 8,596 o bobl wedi bod yn aros dros bum mlynedd am dŷ.

Meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol ei bod hi’n “gwbl annerbyniol” bod cymaint o bobl wedi gorfod aros gyhyd am gartref.

Cyngor Caerdydd sydd â’r nifer fwyaf o bobl yn aros dros bum mlynedd, gyda 1,297 o bobl yn disgwyl dros y cyfnod hwnnw.

Cyngor Caerffili, gyda 375 o bobl yn gorfod aros mwy na deng mlynedd am dŷ, oedd gyda’r nifer uchaf o bobl oedd yn gorfod aros dros ddegawd.

Roedd pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi rhyddhau ffigyrau oedd yn dangos fod pobl wedi gorfod aros dros bum mlynedd.

‘Angen strategaeth tai gwag’

Dywedodd Peter Black, llefarydd tai y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod y ffigyrau’n dangos pa mor ddybryd yw’r prinder tai yng Nghymru.

Meddai Peter Black AC: “Oherwydd diffygion mawr gyda’r GIG ac ysgolion yng Nghymru, dyw effaith prinder tai ddim yn cael yr un sylw.

“Mae llawer ohonom yn ymwybodol o dai adfeiliedig a gwag yn ein cymdogaeth. Dyw’r rhain nid yn unig yn amharu ar sut mae’r cymunedau’n edrych ond hefyd yn wastraff o ofod byw.

“Mae’n amser i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth tai gwag er mwyn i ni, o’r diwedd, roi defnydd i’r adeiladau hyn.”