Llun Heddlu De Cymru o'r dyn y maen nhw'n awyddus i'w holi
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi llun o ddyn y maen nhw’n awyddus i’w holi yn dilyn ymododiad ar ferch.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig tua 1.45yb ddydd Sul, Tachwedd 2, ger yr YMCA ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Merch 17 oed oedd y ddioddefwraig.

Mae dyn wedi’i ddisgrifio fel un rhwng 19-21 oed, gyda llygaid brown a gwallt byr, du.