Cerys Yemm (Llun Heddlu Gwent)
Fe fydd cwest i farwolaeth Cerys Yemm, a gafodd ei llofruddio mewn gweithred honedig o ganibaliaeth yn cael ei agor am 10 o’r gloch heddiw.

Y disgwyl yw mai dim ond y broses ffurfiol fydd yn digwydd heddiw ac y bydd y gwrandawiad yn cael ei ohirio.

Bu farw Cerys Yemm, 22, yn dilyn ymosodiad yn hostel y Sirhowy Arms yn Argoed ger Caerffili bythefnos yn ôl.

Fe fu farw’r dyn sy’n cael ei amau o’i llofruddio, Matthew Williams, 34, hefyd wedi i’r heddlu danio gwn taser ato a’i arestio.

Galw am gau’r hostel

Mae llefarydd ar ran Heddlu Gwent yn dweud eu bod yn ystyried bod hwn yn achos o lofruddiaeth, a bod eu hymchwiliadau’n parhau.

Er eu bod nhw’n gwrthod manylu ar union natur yr ymosodiad, mae ffynonellau lleol yn dweud fod Cerys Yemm wedi dioddef anafiadau sylweddol i’w hwyneb.

Yn ôl yr adroddiadau hynny, roedd swyddogion diogelwch wedi dod o hyd i Matthew Williams yn ceisio bwyta rhannau o’r ferch ifanc.

Ers yr ymosodiad, mae trigolion yn Argoed ger Y Coed Duon wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus i alw am gau’r hostel.