David Hasselhoff
Mae David Hasselhoff wedi canmol ymdrech tîm rygbi Cymru yn y gêm yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn a’r awyrgylch gafodd ei greu gan y dorf yng Nghaerdydd.

Roedd yr actor Baywatch -sy’n cael ei adnabod fel Yr Hoff – yn Stadiwm y Mileniwm i wylio’r ornest yn erbyn y Crysau Duon gyda’i gariad Hayley Roberts, sy’n dod yn wreiddiol o Ferthyr Tudful.

Dywedodd: “Dw i wedi syrthio mewn cariad hefo tîm rygbi Cymru. Mae’r awyrgylch yma yn anhygoel. Mae fel Cadeirlan yma – bois bach, mi rydach chi’n gallu canu.

“Y peth gorau oedd na chafodd Cymru eu hysgwyd gan yr Haka – mi gafon nhw eu gwefreiddio ganddo.”

Er gwaethaf geiriau ysbrydoledig David Hasselhoff, colli’n hwyr o 34-16 wnaeth Cymru i un o gewri hemisffer y de unwaith eto.

Mi fydden nhw’n chwarae eu gem olaf yng Nghyfres yr Hydref yng Nghaerdydd yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn nesaf.