Adeliad y Cynulliad ym Mae Caerdydd
Cafodd dyfroedd Bae Caerdydd a thu hwnt eu corddi ddoe ar ôl i Fwrdd Taliadau Annibynnol y Cynulliad awgrymu y dylai ei haelodau etholedig dderbyn codiad cyflog o 18%.

Yn ôl argymhellion y Bwrdd, dylai cyflogau Aelodau Cynulliad godi o £54,000 i £64,000 ar ôl yr etholiad Cynulliad nesaf yn 2016, gyda’r Prif Weinidog a Gweinidogion hefyd yn cael codiad cyflog o bron i £5,000.

Ond mae undeb Unsain wedi beirniadu’r argymhellion, gan ddweud y dylai gwleidyddion Cymru ganolbwyntio ar godi cyflogau gweithwyr cyffredin cyn cynyddu eu rhai eu hunain.

Denu pobl well?

Yn ôl Cadeirydd y Bwrdd Taliadau, Sandy Blair, mae angen cynyddu cyflog Aelodau Seneddol er mwyn gallu denu “pobl o’r radd flaenaf” i fod yn wleidyddion yng Nghymru.

Mae disgwyl hefyd i’r Cynulliad dderbyn mwy o bwerau yn ystod y blynyddoedd nesaf, ychwanegodd Sandy Blair, ac felly mae angen i’r codiad cyflog adlewyrchu’r ffaith y bydd gan yr Aelodau hynny ragor o gyfrifoldebau.

Mae llawer wedi nodi hefyd bod y cyflog arfaethedig o £64,000 ar gyfer ASau dal yn llawer is na chyflogau llawer o swyddi cyhoeddus eraill, gan gynnwys ym meysydd addysg, iechyd a llywodraeth leol.

Fodd bynnag, yr awgrym gan eraill gan gynnwys Plaid Cymru oedd na fyddai ‘n briodol cynyddu tâl Aelodau Cynulliad tra bod y rhan fwyaf o weithwyr cyffredin yng Nghymru yn derbyn cynnydd mor isel yn eu cyflogau blynyddol.

Mae ACau hefyd yn derbyn arian treuliau ar ben y cyflog presennol o £54,000, gan gynnwys pethau fel costau teithio.

Beth yw’ch barn chi? A ddylai Aelodau Cynulliad dderbyn na ddylen nhw fod yn cael codiad cyflog sylweddol fel hyn ar hyn o bryd? Neu a oes angen codi’r cyflog hwnnw er mwyn denu’r gorau i Fae Caerdydd?