Fe wnaeth Llywodraeth Prydain benderfyniad anodd ond cywir i gau ffatrïoedd Remploy, yn ôl y gweinidog dros bobol anabl wedi iddo ddod dan y lach gan ASau o Gymru.

Fe ddaeth sylw Mark Harper mewn dadl yn San Steffan ynglŷn â nifer y bobol anabl sydd yn ddi-waith ar hyn o bryd yn dilyn cau’r ffatrïoedd arbenigol.

Fe gollodd tua 400 o bobol anabl eu swyddi pan wnaeth naw safle Remploy yng Nghymru gau yn 2012 – yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth Prydain, oedd yn groes i farn gwleidyddion Cymreig.

Yn ôl undeb y GMB, dim ond un o bob pedwar o’r cyn-weithwyr trwy wledydd Prydain sydd mewn gwaith ac mae amryw o’r rheiny’n gweithio llai o oriau neu ar dâl is.

Ond fe ddywedodd Mark Harper nad oedd o am ymddiheuro am gau’r ffatrïoedd ac fe honnodd bod 774 o 1,507 o bobol gafodd eu diswyddo bellach mewn gwaith.

‘Penderfyniad creulon’

Mewn ymateb i’r sylwadau, roedd yr AS dros Wrecsam, Ian Lucas, yn credu bod San Steffan wedi “gadael rhai o bobol fwyaf bregus y gymdeithas i lawr”, ac y dylen nhw fod â chywilydd.

Ychwanegodd Chris Evans, AS Islwyn bod y penderfyniad yn anghywir ar sawl lefel:

“Beth allwch chi ddim ei wadu yw bod y dewis yn anghywir nid yn unig ar lefel busnes ond ar lefel gymdeithasol a moesol hefyd.

“Ymysg yr holl ddewisiadau, rwy’n credu bod cau ffatrïoedd Remploy ymysg y rhai mwyaf creulon.”