Llandeilo
Mae dyn o Lanymddyfri wedi ei orchymyn i dalu dros £570 am ollwng stwmp sigarét ar y llawr.

Cafodd Mathew James Abson, 35, ddirwy o £200 am daflu’r stwmp, £100 am wrthod darparu ei fanylion i swyddog cyngor a £278.18 o gostau ychwanegol.

Cafodd ei erlyn gan Gyngor Sir Gaerfyrddin wedi i swyddog ei weld yn troseddu ar Heol Rhosmaen, Llandeilo ym mis Mai.

Pan wnaeth y swyddog gyflwyno’r ddirwy iddo, fe wnaeth Mathew Abson wrthod ei thalu ac fe aeth yr achos i’r llys.

Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones: “Mae gollwng sbwriel yn erbyn y gyfraith ac nid yw stwmp sigarét yn wahanol i unrhyw fath arall o sbwriel.

“Mae’n gwneud i’r ardal edrych yn flêr ac yn anodd a chostus i’w lanhau.”