Mae S4C wedi gorfod ymddiheuro ar ôl i aelod o’r cyhoedd gwyno am gael ei holi’n Saesneg am arlwy’r Sianel Gymraeg.

Cyflogodd S4C gwmni – nad yw’r Sianel yn fodlon enwi – i wneud gwaith ymchwil marchnad yng Nghaernarfon yr wythnos hon.

Fe gysylltodd dynes o Fôn gyda rhaglen Taro’r Post Radio Cymru i gwyno ei bod wedi ei holi yn Saesneg gan y criw, a’i bod wedi gwrthod bod yn rhan o’r ymchwil am nad oedd modd ateb cwestiynau yn Gymraeg.

Meddai Pennaeth Dadansoddi S4C, Carys Evans:

“Mae peidio cynnig opsiwn yn y Gymraeg yn annerbyniol ac rydym yn ymddiheuro fod hyn wedi digwydd. Byddwn yn codi’r mater yma gyda’r cwmni sy’n gwneud y gwaith yma i S4C ar lefel uchel i ganfod beth sydd wedi mynd o’i le yn yr achos yma.”

Dwyieithog

Yn ôl S4C roeddwn nhw wedi pwysleisio wrth y cwmni dan sylw bod angen gwneud y gwaith ymchwil yn ddwyieithog.

Meddai Carys Evans: “Mae casglu adborth a sylwadau gan ein gwylwyr yn waith pwysig wrth ddatblygu rhaglenni a’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan S4C. Er mwyn cwblhau ymchwil trylwyr, mae S4C yn comisiynu cwmnïau arbenigol i gasglu’r wybodaeth ar ein rhan.

“Wrth gomisiynu cwmnïau i wneud gwaith ar ran S4C, mae’n ofynnol eu bod nhw’n gallu cwblhau’r gwaith yn ddwyieithog. Rydym yn pwysleisio fod yn rhaid i unrhyw gyswllt uniongyrchol fod ar gael yn y Gymraeg, a chyflwyno’r dewis i’r unigolyn ateb un ai yn Gymraeg neu’n Saesneg yn ôl eu dymuniad nhw.

Nid yw S4C yn fodlon enw’r cwmni gafodd ei gyflogi i holi barn y cyhoedd yng Nghaernarfon.