Mae dyn wedi cael ei ladd a chwech o blant ysgol wedi’u hanafu yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a bws ysgol yn ardal Llaneirwg ger Caerdydd y bore ma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyffordd Cypress Drive a Heol Willowdene am tua 08:05, ar ôl i gar Ford Fiesta arian wrthdaro â bws ysgol oedd yn cludo tua 40 o blant i Ysgol Uwchradd San Teilo.

Cafodd gyrrwr y car, dyn 40 oed, ei ladd yn y fan a’r lle.

Mae’r crwner a theulu’r dyn wedi cael gwybod ac mae’r heddlu yn apelio am lygad dystion i’r digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Fe allwn gadarnhau bod bws ysgol cwmni Bysiau Edwards wedi bod mewn damwain ffordd y bore ma.

“Mae cymorth meddygol wedi ei roi i rai disgyblion ac fe fydd cefnogaeth yn cael ei roi iddyn nhw fel bo’r angen. Mae ymchwiliad yn parhau.”